Y cwmni: Un o ffatrïoedd mwya'r gogledd
|
Mae 'na bryder am ddyfodol ffatri Aliwminiwm Môn yng Nghaergybi.
Hon yw un o ffatrïoedd mwya'r gogledd ac mae 500 yn gweithio yno
Dywedodd y rheolwyr, Rio Tinto Alcan a Kaiser Aluminium, y byddai'r safle'n cau ym mis Medi os na fydd cytundeb i gael cyflenwad newydd o drydan fforddiadwy.
Roedd y cytundeb gydag atomfa'r Wylfa a does dim modd i'r ffatri weithredu heb ddigon o drydan.
Ymgynghori
"Mae Aliwminiwm Môn ... wedi gweithio'n ddyfal ag awdurdodau'r llywodraeth ac asiantaethau yng Nghymru a Phrydain i ddod o hyd i ffordd arall i gael digon o gyflenwad pŵer i'r mwyndoddwr," meddai datganiad y cwmni ddydd Iau.
Ychwanegodd eu bod wedi methu.
|
Mae angen edrych yn fanwl ar opsiynau amrywiol ac rydym yn benderfynol o edrych ar bob posibilrwydd
Llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad
|
Dywedodd nad oedd y cwmni wedi amlinellu faint o swyddi fyddai o dan fygythiad.
"Bydd cwtogiad arfaethedig yn yr adran mwyndoddi yn destun trafod gyda gweithwyr ...
"Nid oes unrhyw ffynonellau pŵer wedi'u hadnabod hyd yma fyddai'n golygu bod y gweithrediadau mwyndoddi'n parhau'n ddi-dor."
Y ffatri yw'r defnyddiwr mwyaf o drydan ar yr ynys.
Fe gynhyrchodd y safle bron i 140,000 tunnell o alwminiwm yn 2007.
Cau
Yn naw mis cyntaf 2008 fe gynhyrchodd y safle 86,000 tunnell o fetel, 20% yn llai na'r un cyfnod yn 2007.
Dywedodd David Bloor, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, "Mae'r gwaith yn dibynnu am ei bŵer ar atomfa'r Wylfa gerllaw sy ei hun i fod i gau o fewn ychydig o flynyddoedd.
Cynhyrchwyd bron i 140,000 tunnell o alwminiwm yn 2007
|
"Rydym yn ymwybodol o'r effaith fawr ar y gweithwyr ac ar y gymuned leol a byddwn ni'n gweithio gyda phartneriaid a budd-ddeiliaid i ddatblygu opsiynau hirdymor eraill ..."
Dywedodd Aelod Seneddol Ynys Môn, Albert Owen, ei fod yn credu bod modd cael cytundeb tymor byr.
"Mae'r sefyllfa economaidd eleni yn wahanol iawn i'r hyn yr oedd 12 mis yn ôl," meddai.
'Ofnadwy'
"Mi fyddai effaith cau Aliwminiwm Môn yn ofnadwy o ran economi Môn, economi Cymru a Phrydain."
Dywedodd Cyngor Ynys Môn y byddai cau'n "ergyd drychinebus" i economi'r ynys.
"Byddai oblygiadau cau Alwminiwm Môn ac effaith hynny ar economi'r ynys yn ddychrynllyd," meddai'r Cynghorydd Phil Fowlie.
"Byddai'n drychinebus i Ynys Môn ac yn golled o filiynau o bunnoedd i'r economi leol."
Dywedodd y byddai colli un o'r cyflogwyr mwya a channoedd o swyddi da yn ergyd fawr, o gofio'r argyfwng ariannol presennol.
1971
Cafodd y cwmni ei sefydlu fel menter ar y cyd rhwng Rio Tinto a Kaiser Aluminium yn 1971.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad fod swyddogion wedi cydweithio'n agos gyda rheolwyr.
"Mae angen edrych yn fanwl ar opsiynau amrywiol ac rydym yn benderfynol o edrych ar bob posibilrwydd sy'n golygu parhau i weithredu ar ôl i'r cytundeb presennol gyda gorsaf Wylfa ddod i ben."
|